Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddyn 54 oed y cafwyd hyd i’w gorff mewn parc carafanau yn Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i farwolaeth Simon Peter Clark, 54, ym Mharc Carafanau Grove ym Mhentywyn.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 10 o’r gloch fore Gwener (Medi 28), lle daethon nhw o hyd i’w gorff.

Mae ei deulu’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.

‘Colled ofnadwy’

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu, “Rydym yn torri’n calonnau o golli ein tad, tad-cu, mab, brawd, ffrind a phartner rhyfeddol.

“Gadewch i ni alaru’r golled ofnadwy hon mewn preifatrwydd.”

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn aros yn y parc carafanau rhwng 5 o’r gloch nos Iau (Medi 27) a 10 o’r gloch fore Gwener (Medi 28), gan y gallai unrhyw ddarn o dystiolaeth “fod yn hanfodol” wrth wybod beth oedd wedi digwydd i’r dyn cyn iddo farw.

Mae dyn 48 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o’i lofruddio, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.