Mae un o gynghorwyr Plaid Cymru sydd wedi blogio yn helaeth am ei strategaeth, yn amau doethineb cynnal etholiad arweinyddol.

Heddiw fe fydd Plaid Cymru yn cyhoeddi pwy sydd wedi ennill y ras arweinyddol rhwng Rhun ap Iorwerth, Adam Price a Leanne Wood.

Ond mae’r Cynghorydd Cai Larsen o Gaernarfon, un o gefnogwyr Leanne Wood ac awdur y blog blogmenai, wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg y gallai’r etholiad greu rhwygiadau.

“Os oes yna wahaniaethau mawr rhwng pobol, rydach chi angen [etholiad arweinyddol],” meddai Cai Larsen.

“Ond dw i ddim wedi fy argyhoeddi bod yna wahaniaeth sylfaenol rhwng y tri, ac yn yr ystyr yna dw i ddim yn meddwl bod oedden ni angen [etholiad]…

“Os oes yna ornest am arweinyddiaeth plaid, yn arbennig pan mae yna arweinydd yna yn barod, mae yna risg bod yna hollti a phroblemau yn cael eu gadael am gyfnod maith.

“Beth bynnag ddigwyddith ddydd Gwener, fy ngobaith i ydy y bydd o’n flaenoriaeth i bwy bynnag sydd wedi ennill, i wneud yn siŵr nad oes yna ddim drwgdeimlad yn para ar ôl y peth, ac i estyn allan at y ddau arall.”