Mae trigolion pentref yn y Cymoedd wedi cael eu hannog i beidio â cherdded a loncian yn yr ardal ar eu pennau eu hunain.
Daw’r rhybudd yn dilyn ymosodiad rhyw difrifol yng Nghroespenmaen, pentref sydd hanner ffordd rhwng Caerffili a Chwmbrân.
Digwyddodd yr ymosodiad ar Fedi 3 ar Heol Kendon, a bellach mae dyn 40 blwydd oed o’r ardal wedi cael ei arestio a’i ryddhau dan ymchwiliad.
Mae’r heddlu yn bresennol yn y pentref o hyd, ac mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi cyngor i aelodau’r cyhoedd:
- Os ewch chi am dro, neu i loncian, rhowch wybod i bobol eraill eich bod am wneud hynny
- Ystyriwch fynd am dro, neu loncian, gyda pherson arall
- Ewch â’ch ffôn gyda chi, a gwnewch yn siŵr bod eich batri’n llawn.