Mae un o drefnwyr Gŵyl Rhif 6, sy’n digwydd y penwythnos hwn ym Mhortmeirion, wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg y bydd yn dychwelyd yn 2020… ond ar raddfa lai, efallai.

Bydd yr ŵyl sy’n denu miloedd i arfordir Gwynedd ac sydd wedi ennill gwobrau lu, yn cael hoe am flwyddyn yn 2019.

“Bydd yn dda i’r pentref a’r tir gael seibiant am flwyddyn,” meddai Meurig Jones, Rheolwr Digwyddiadau Portmeirion. “Efallai bydd eisio ailedrych ar un neu ddau o bethau.

“Mae hi’n reit anodd gwneud gŵyl ar benrhyn efo un ffordd i mewn ac allan i 15,000 o bobol. Pe tasan ni’n gallu edrych arno fo, efallai ei wneud o i edrych yn llai… Rydym ni’n mynd i gael sgwrs ar ôl yr ŵyl y tro yma.”

Ar ôl trafferthion mawr gyda llifogydd yn y maes parcio ar y Traeth yn 2016, mae’r prif faes parcio a’r bysus gwennol wedi symud i dir uwch ar fferm Llwyn Mafon Uchaf ar gyrion Garndolbenmaen.

“Ers symud, mae o’n lle iawn,” meddai Meurig Jones.

“Ond rydan ni eisio ailystyried popeth. Bydd yr ŵyl yn ei hôl yn 2020, a bydd hi ychydig bach yn wahanol.”

Bandiau Cymraeg yr ŵyl

Bydd Geraint Jarman yn perfformio ar y prif lwyfan b’nawn Sadwrn ac ymhlith y grwpiau eraill o Gymru sy’n perfformio mae Gwenno, Band Pres Llareggub a Yucatan.

Bydd gwledd o gerddoriaeth Gymraeg brynhawn a nos Sul gyda mawrion fel Anweledig, Meic Stevens ac Estella.

Mwy gan Non Tudur am Ŵyl Rhif 6 yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg