Mae Cymru wedi croesawu enwau mawr y byd seiclo – gan gynnwys y Cymro ac enillydd Tour de France, Geraint Thomas – wrth i ras Taith Seiclo Prydain ddechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre ddydd Sul.
Hefyd yn cymryd rhan yn y ras mae cyd-aelod Geraint Thomas yn nhîm Sky, Chris Froome. Dyma’r tro cyntaf i’r ddau gystadlu gyda’i gilydd yn y ras ers 2009.
Bydd y cymal cyntaf yn dod i ben yng Nghasnewydd yn ystod y prynhawn.
Dywedodd cyfarwyddwr y ras, Mick Bennett ei fod e “wrth ei fodd” fod y ddau yn cystadlu yn y ras.
“Mae cael dau o’r seiclwyr gorau yn hanes Prydain – enillydd presennol y Tour de France a’r Giro d’Italia, neb llai — yn cystadlu yn y ras yn newyddion gwych i’n cefnogwyr, a fydd yn heidio i’r strydoedd i gael cip ar eu harwyr.
“Fe welson ni’r ymateb anhygoel gafodd Geraint yn ystod ei ddathliadau wrth ddod adref i Gaerdydd yr wythnos ddiwethaf. Mae’r ffaith fod y Cymal Cyntaf ddydd Sul, 2 Medi yn digwydd yn gyfangwbl yng Nghymru’n golygu y bydd y wlad gyfan yn gallu dathlu ei lwyddiant anhygoel yn Ffrainc dros yr haf.”
Bydd y ras i’w gweld yn llawn ar ITV4, a bydd sylw i’r ras bob dydd ar Eurosport.