Llwybr y glannau ym Mhen Llyn
Fe ddylai Cymru gael llwybr cerdded ar hyd ei harfordir cyfan o fewn chwe mis, meddai’r Llywodraeth.

Ac maen nhw’n proffwydo y bydd yr atyniad newydd yn denu 100,000 yn rhagor o ymwelwyr i’r wlad.

Fe ddaeth y cyhoeddiad wrth i’r Gweinidog Amgylchedd agor rhan newydd o’r llwybr o Gas-gwent i gyrion Cil y Coed.

‘Hwb i’r economi’

“R’yn ni ar ein ffordd i agor y llwybr yn ffurfiol ar 5 Mai, 2012,” meddai John Griffiths. “Fe fydd yn wych i economi Cymru gan ein bod yn proffwydo y bydd yn denu 100,000 o ymwelwyr newydd i lannau Cymru bob blwyddyn.”

Mae’r Llywodraeth wedi bod yn gwario £2 filiwn y flwyddyn ers 2007 ar wella llwybrau presennol ac agor rhai newydd er mwyn cwblhau’r tro o fwy nag 870 milltir.

Yn ogystal â thwristiaid, mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd y llwybr newydd yn denu rhagor o bobol leol allan i fwynhau’r awyr iach.