Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i dudalen a ymddangosodd ar wefan gymdeithasol Facebook a oedd yn gwneud hwyl am ben marwolaeth y pedwar glöwr o Gwm Tawe.

Credir bod yr heddlu wedi derbyn nifer o gwynion am y dudalen sydd bellach wedi cael ei dynnu oddiar Facebook.  Mae na alw ar i’r person sydd y tu ôl i’r dudalen gael ei gosbi’n llym.

Er fod  y safle wedi  honni mai’r bwriad oedd “tynnu coes”, roedd teitl y wefan yn sôn am farwolaeth y pedwar gan ddweud “LOL” – laugh out loud – am mai Cymry oedden nhw.

Dywedodd yr heddlu bod y sylwadau wedi peri gofid i deuluoedd y glowyr a’r gymuned.

Cynnwys ‘erchyll’

Dywedodd Ceri Phillips o Gaerdydd ei bod hi wedi ffonio’r heddlu ar unwaith i gwyno am y dudalen am ei bod hi’n teimlo bod y cynnwys yn “erchyll”.

“Roedd y dudalen wedi fy nghorddi i ac felly nes i ffonio’r heddlu yn syth bin. Roeddan nhw’n dweud eu bod wedi cael llwyth o gwynion a’u bod yn gwneud ymholiadau.

“Yn sicr fe ddylai’r person sydd y tu ôl i hyn fynd i garchar neu gael ei gosbi’n llym. Mae’n beth mor ansensitif.

“Mae nifer o bobl eraill sy wedi gadael sylwadau yn teimlo run fath,” meddai.

AC  yn beirniadu

Mae Aelodau Cynulliad lleol hefyd wedi condemnio’r dudalen.

“Roeddwn i’n teimlo’n eitha sâl pan ddarllenais y sylwadau, ond mae’n debyg mai dyna’r pwynt yr oedd y bobol hynny am ei wneud,” meddai Bethan Jenkins, AC tros Orllewin De Cymru ac un a fu’n ymweld ag ardal y trychineb yng Nghilybebyll yr wythnos ddiwetha’.

“Maen nhw’n ffynnu ar enw drwg, a’r ffordd orau i ymdrin â hyn yw anwybyddu’r sylwadau, a peidio â rhoi cyhoeddusrwydd iddynt.

“Rwy’n falch fod pobol o bob man wedi ei gwneud yn hysbys nad yw hyn yn dderbyniol, a bod cymaint o bobol yn cydymdeimlo â theulueoedd y glowyr a fu farw.

“Mae cronfa ar gyfer teuluoedd y glowyr wedi cael ei sefydlu, ac felly rhaid i ni ganolbwyntio ar bethau cadarnhaol yn ystod y cyfnod anodd yma i gymunedau cymoedd Abertawe.’

Yn ystod yr wythnosau diwetha’, fe fu sylw i weithgareddau o’r fath gydag un dyn ifanc yn cael ei erlyn am anfon sylwadau dilornus at wefannau sy’n cofio am bobol a fu farw.