Mae disgwyl 40,000 o bobol yng Nghaerdydd dros y tridiau nesaf i ddathlu Pride Cymru.

Bydd y penwythnos mawr yn dechrau heno y tu allan i Neuadd y Ddinas gyda lein-yp llawn o berfformiadau pop, comedi, cabaret, ffair, marchnad fwyd a mwy.

Dydd Sadwrn bydd parêd yr ŵyl, lle bydd y dorf yn gorymdeithio drwy ganol y ddinas gan ddechrau a gorffen ger Neuadd y Ddinas.

Neges Pride Cymru eleni yw ‘balch i fod yn fi’, i annog pobol o’r gymuned hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsryweddol i fod yn hyderus yn eu hunain.

Er gwaethaf yr ansicrwydd ynghylch dyfodol yr ŵyl y llynedd wedi i’r digwyddiad orfod symud lleoliad, mae’r trefnwyr yn addo’r penwythnos mwyaf erioed i ddathlu a hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru.