Mae diffoddwyr tân wedi bod yn brwydro tân anferth ym Marina Caergybi dros nos, misoedd yn unig ar ol i Storm Emma achosi difrod sylweddol.
Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos adeilad, gweithdy diwydiannol o bosib, wedi’i lyncu gan fflamau. Yn ôl llygad-dystion, bu “ffrwydrad” ar y safle.
Roedd modd gweld y mwg milltiroedd i ffwrdd ac mae trigolion wedi cael rhybudd i gadw eu drysau a’u ffenestri ynghau.
Yn ôl yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Albert Owen, mae pobol wedi cael eu symud o’r ardal “fel rhagofal” a dywedodd ar Twitter nad oedd unrhyw un wedi cael eu hanafu.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw am tua 9:10 yr hwyr nos Iau ac roedd pedwar criw yn delio gyda’r fflamau.
Does dim sôn bod y tân yn effeithio ar borthladd Caergybi.
Ar Twitter, dywedodd RNLI Caergybi, sydd â safle gerllaw, fod y digwyddiad y tu hwnt o drist.
Ym mis Mawrth, fe wnaeth Storm Emma ddifrodi nifer fawr o gychod yn y marina ac achosodd gwerth miliwn o bunnoedd o ddifrod.