Mae acen Machynlleth yn “ffynnu” yn ôl cyflwynydd deledu o’r dre, sy’n gobeithio medru “chwifio’r faner” tros ei thafodiaith unigryw.

Mae Aeron Pughe yn adnabyddus i lawer am lenwi rôl y môr leidr, Ben Dant ar wasanaeth S4C, Cyw; mae’n dweud bod ganddo “acen Mach cry’” oddi ar y sgrin deledu.

 rhai yn ystyried acen y canolbarth yn gymysg o’r gogledd a’r de, mae’n mynnu bod y dafodiaith yn “unigryw” a’n dod a “golau” i’r canolbarth.

Yn ogystal, mae’n rhagweld dyfodol “llewyrchus iawn” i’r acen, gyda phlant ei ffrindiau yn siarad fel  eu rhieni.

Balchder

“Yn sicr o ran acen, dw i’n ofnadwy o falch,” meddai wrth golwg360. “Mae gen i ferch dwy flwydd oed sydd yn deud geiriau newydd bob dydd.

“Mae hi’n dweud ‘ne’ [yn lle ‘na’] a ‘gles’ am ‘glas’. Ac mae clywed hi’n dweud hynny, gan wybod bod yr acen yn parhau, yn cynhesu fy nghalon i.

“Mae lot fawr o ffrindie o’ nghenhedlaeth i wedi priodi pobol o’r ardal. Maen nhw i gyd yn magu fel cwningod. Ac, mae’r dyfodol yn edrych yn llewyrchus iawn i’r acen, ‘sŵn i’n deud.

“Ar y funud mae’r ysgol leol dan ei sang. Felly, dw i’n gobeithio – croesi bysedd – bod yr acen yma i aros.”

Gwersi Cymraeg

Ond, nid ieuenctid y canolbarth yn unig, sy’n mabwysiadu’r acen yn ôl Aeron Pughe.

Mae’n tynnu sylw at wersi Cymraeg wythnosol yn ei dafarn lleol, ‘Y Dyfi’, lle mae’r di-Gymraeg yn dysgu siarad yn nhafodiaith Machynlleth.

“Oes basa nhw’n dysgu deg gair [bob wythnos] mewn acen ogleddol, a bod nhw’n mynd i’r siop ym Machynlleth, basa nhw ar goll,” meddai. “Felly mae’n bwysig eu bod yn dysgu eu hacen leol.”

Gallwch gael blas o’r acen trwy glicio ar y clip isod…