Y Prifardd Twm Morys fydd yn olynu Alan Llwyd fel golygydd rhan amser cylchgrawn y Gymdeithas Gerdd Dafod Barddas.

Fe gafodd hyn ei gadarnhau ym mhwyllgor gwaith y Gymdeithas gafodd ei chynnal ddydd Sadwrn, 17  Fedi yn Aberystwyth.

Bydd Twm Morys yn dechrau ar ei waith ar y 1 Ionawr, 2012 ar ôl cysgodi golygydd dros dro rhifyn Nadolig 2011 o’r cylchgrawn.

Eisoes, mae wedi son ei fod yn edrych ymlaen yn frwdfrydig at y gwaith.

Newidiadau…

Mae wedi amlinellu ei awgrymiadau at newid y cylchgrawn sy’n bodoli ers 1976.

Mae’n awyddus i wneud newidiadau iddo yn raddol, mae am wahodd cyfranwyr newydd i’r cylchgrawn, ac am anelu drwy gydweithio â’r pwyllgor gwaith i gyhoeddi pedwar rhifyn, un bob chwarter yn ystod 2012.

Yn dilyn derbyn y swydd mae’r Prifardd Twm Morys wedi ymddiswyddo o bwyllgor gwaith y Gymdeithas.  Mae wedi egluro hefyd ei fod yn ymddiswyddo o fod yn gyd-olygydd ‘Y Glec’.

Twm Morys yw bardd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003,a cholofnydd barddol Y Cymro.

Y Glec

Eleni, fe wnaeth Meirion McIntyre Huws a Twm Morys gyhoeddi lansiad cylchgrawn barddonol newydd sbon Y Glec roedden nhw’n bwriadu ei ariannu eu hunain.

Roedd lansiad swyddogol rhifyn cyntaf Y Glec yn y Palas Pinc, y Felinheli, ar 5 Gorffennaf.

Mae’r cylchgrawn yn cynnwys  “englynion, straeon cerdd dafod, cywyddau, trafod y gynghanedd, gwersi, ystyr geiriau, posau, pigion ymryson, y beiau, adolygiadau, byd y beirdd, a sawl difyrrwch arall”.

“Mi fydd Y Glec yn cael ei olygu gan Twm Morys a finna hyd at yr amser y bydd Twm yn ymgymryd â’i swydd efo Barddas. Wedyn, mi fydd Y Glec yn cael ei olygu gen i yn unig,” meddai Meirion McIntyre Huws wrth Golwg360.