Elan Closs Stephens - 'dim newydd yn y cytundeb'
Mae cynrychiolydd Cymru ar gorff rheoli’r BBC wedi gwrthod rhoi sylw ar ôl i Gymdeithas yr Iaith alw am ei hymddiswyddiad tros ddyfodol S4C.
Maen nhw’n cyhuddo’r Gorfforaeth o “ddweud celwyddau” ac o ddod i “gytundeb twyllodrus” gyda’r Llywodraeth – un sy’n golygu y bydd gan y BBC reolaeth lwyr tros gyllideb y sianel Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Elan Closs Stephens i ystyried ei dyfodol gan ddweud bod Ymddiriedolaeth y BBC wedi gwthio penderfyniad a fydd yn rhoi dyfodol S4C yn y fantol a hynny heb ymgynghori gyda phobl Cymru.
Mae’r cytundeb yn caniatau i’r BBC benderfynu faint o arian y bydd S4C yn ei gael rhwng 2015 a 2017.
Gwrthod ymateb
Dywedodd Elan Closs Stephens wrth Golwg360 nad oedd hi’n fodlon ymateb i alwadau Cymdeithas yr Iaith gan bwysleisio mai dim ond diwedd yr hyn sydd wedi bod yn wybyddus ers hydref y llynedd oedd y cytundeb yma.
Ac, mewn datganiad, mae’r BBC yn dweud eto na fydd y “bartneriaeth newydd” yn peryglu dyfodol y sianel.
Mae’r cynlluniau ar gyfer S4C yn golygu bod y llywodraeth yn torri ei grant i S4C i tua £8 miliwn gan ddisgwyl i’r BBC gyfrannu’r gweddill o arian y drwydded deledu.
Tan 2015, mae maint y swm ychwanegol wedi ei warantu; ar ôl hynny, yn ôl y cytundeb newydd, y BBC fydd yn penderfynu.
‘Cytundeb twyllodrus’ – sylwadau’r Gymdeithas
Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Nid oes amheuaeth bellach, fe gollwn ni ein hunig sianel deledu Gymraeg os nad yw pethau yn newid. Stopio’r sianel rhag diflannu yw’r flaenoriaeth nawr.
“Yn dilyn cytundeb twyllodrus arall gan y BBC a’r Llywodraeth, mae rhaid gofyn beth mae cynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC yn ei wneud. Mae rhaid i Elan Closs Stephens ystyried ei dyfodol.
“Mae’n ymddangos nad yw’r un o’r ddau barti wedi ystyried o gwbl y goblygiadau i S4C a’r Gymraeg – mae’n gywilyddus bod y BBC a’r Llywodraeth yn gallu ymddwyn fel hyn.
“Bellach, mae’n gwbl glir bod holl sôn rheolwyr y BBC a gwleidyddion y Llywodraeth am annibyniaeth S4C yn eiriau cwbl wag.”