Mae cronfa gafodd ei sefydlu ddydd Sadwrn i helpu teuluoedd y pedwar glowr fu farw yng nglofa Gleision ger Pontardawe wythnos ddiwethaf, wedi chwyddo i £50,000.

Fe gyhoeddodd y sylfaenydd, yr AS lleol Peter Hain y bydd apel glowyr Gleision yn cael ei gweinyddu gan Undeb y Glowyr yn ne Cymru, dan arweiniad yr Ysgrifennydd, Wayne Thomas.

‘Rhagor o noddwyr’

Ddoe cyhoeddwyd bod y Tywysog Charles wedi cytuno i fod yn noddwr brenhinol i’r elusen ac mae disgwyl i ragor o noddwyr gael eu cyhoeddi heddiw.

Cafodd gwasanaethau arbennig eu cynnal ddoe mewn eglwysi yn y Cwm ac ardal Resolfen lle’r oedd un o’r glowyr yn byw.

Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, a Garry Jenkins, 39, o Gwm Tawe a Phillip Hill, 45, o Gastell-nedd, ar ôl i bwll y Gleision lenwi â dŵr. Roedd tri glowr arall wedi llwyddo i ddianc o’r pwll ac aethpwyd ag un i’r ysbyty.

Mae’r heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn dal i ymchwilio i’r ddamwain.