Mae athro prifysgol a benderfynodd ddileu ei aelodaeth o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol wedi i’r Llywydd gyfeirio at “anwariaid” Uganda, yn dweud y byddai “wrth ei fodd” yn ail-ymuno â’r gymdeithas.

Fe gyhoeddodd y Dr Dylan Foster Evans, pennaeth Adran Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn gynharach yr wythnos hon ei fod yn gadael y Llys, am nad oedd Eifion Lloyd Jones wedi “ymddiheuo’n ddigonol” am ei sylwadau yn ystod y Gymanfa Ganu ym mhrifwyl Caerdydd.

Ond heddiw, wedi i Eifion Lloyd Jones gyhoeddi trydydd ymddiheuriad – y tro hwn, yn “llwyr a diamod” mae Dylan Foster Evans yn dweud y byddai’n fodlon ail-ymuno â’r corff o tua 3,000 o bobol sy’n cefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol.

“Byddwn wrth fy modd yn ail-ymaelodi,” meddai wrth golwg360. “Dw i ddim yn gwybod beth ydi’r drefn ynglyn ag ail-ymaelodi, ond mater i’r Llys fyddai hynny… Fe fydda’ i’n parhau i fod yn gefnogwr o’r Eisteddfod.

“Gobeithio y bydd Eifion (Lloyd Jones) ac eraill – pawb ohonom yn yr Eisteddfod – yn meddwl am sut mae adeiladu ar y llwyddiant cynhwysol a gafwyd yng Nghaerdydd eleni.”

Y cefndir 

Ail ymddiheuriad y brifwyl… gan Lywydd y Llys

Eifion Lloyd Jones: “Mae’n wirioneddol ddrwg gen i”

Llywydd y Llys: ymddiheuriad pellach am “dynnu coes”

Trydydd ymddiheuriad Llywydd y Llys