Fe fydd nofel y Fedal Ryddiaith yn mynd i ail argraffiad, gwta wythnos ers iddi fynd ar werth yn Eisteddfod Caerdydd.
Mae gwasg Y Lolfa yn dweud nad oes ffigyrau gwerthiant manwl ar gael eto ar gyfer Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros – gan ei bod yn rhy fuan – ond mae “mwyafrif” y 3,000 o gopïau wedi hedfan oddi ar y silffoedd.
Mae’r wasg yn ychwanegu bod cyfrol Gwobr Goffa Daniel Owen, Ysbryd yr Oes, “wedi gwerthu’n aruthrol o dda”.
“Mae’n debyg bydd angen ail-argraffu Llyfr Glas Nebo yn fuan iawn gan bod y mwyafrif o’r 3,000 copi a argraffwyd yn wreiddiol wedi’u gwerthu yn barod,” meddai llefarydd ar ran Y Lolfa.