Bydd y seiclwr, Geraint Thomas, yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Taith Prydain yn Sir Gaerfyrddin y mis nesa’, yn ôl Tîm Sky.
Dyma fydd cystadleuaeth gynta’r gŵr o Gaerdydd ar ôl iddo ennill y Tour de France ychydig dros bythefnos yn ôl – y Cymro cyntaf i ennill y gystadleuaeth.
Yn ymuno â Geraint Thomas yn Nhîm Sky fydd Chris Froom, gyda’r ddau yn cystadlu gyda’i gilydd yn Nhaith Prydain am y tro cynta’ ers 2009.
Mae disgwyl i Wout Poels o’r Iseldiroedd ymuno â nhw hefyd, gyda disgwyl i weddill y tîm gael eu cyhoeddi yn fuan.
Bydd cymal cynta’r gystadleuaeth ym Mharc Gwledig Pembre, a hynny ar ddydd Sul, Medi 2.
Edrych ymlaen
“Cyn gynted ag y cwblheais y Tour [de France], roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau cymryd rhan yn Taith Prydain a rasio ar hyd heolydd gartre’,” meddai Geraint Thomas.
“Mae’n cychwyn yng Nghymru, sy’n arbennig, ac wedyn fe fydda i’n cael y cyfle i rasio ledled y Deyrnas Unedig. Dw i’n methu aros.”