Un o'r teyrngedau i'r glowyr (Carl Ryan)
Fe gafodd buddugoliaeth tîm rygbi Cymru ei chyflwyno’n deyrnged i gofio am y pedwar glöwr a fu farw yng Nghwm Tawe.

Ac fe gafodd gwasanaethau arbennig eu cynnal mewn eglwysi yn y Cwm ac ardal Resolfen lle’r oedd un o’r glowyr yn byw.

Bellach, mae’r Tywysog Charles wedi dweud ei fod  yn fodlon bod yn noddwr i’r gronfa sydd wedi ei sefydlu i godi arian i helpu’r teuluoedd.

Codi £30,000

Heddiw, fe gyhoeddodd y sylfaenydd, yr AS lleol Peter Hain, fod y gronfa eisoes wedi croesi £30,000, gan gynnwys £800 a gasglwyd yng ngêm rygbi Castell Nedd.

Fe gadarnhaodd y bydd y gronfa’n cael ei gweinyddu gan Undeb y Glowyr yn ne Cymru, dan arweiniad yr Ysgrifennydd, Wayne Thomas.

Ynghynt heddiw fe ddywedodd Peter Hain fod yr Undeb wedi bod gyda’r teuluoedd yn holi am eu hanghenion ond eu bod yn dal i deimlo’n ddiffrwyth oherwydd eu colled.