Mae grŵp o feibion fferm wedi mynd ati i sefydlu eu bwyty eu hunain sy’n arbenigo mewn gwerthu byrgyrs.
Mae Byrgyr Aber yn adeilad y Cambria yn Aberystwyth, ac yn ffrwyth blwyddyn o drafodaethau rhwng pump gŵr busnes.
Yn ôl un o’r pump, Aled Rees, mae’r syniad o sefydlu bwyty yn deillio o grant gwerth £1,000 a gafodd ei roi gan y corff amaethyddol, Cyswllt Ffermio.
Nod y grant hwnnw oedd annog meibion fferm i ddod ynghyd er mwyn trafod ffyrdd o gydweithio â’i gilydd.
Y pedwar arall a fu’n cynnal cyfarfodydd gydag Aled Rees oedd Aled Davies, Dafydd Alun Jones, Wyn Morris a Llion Pugh.
“Ro’n ni wedi trafod popeth [yn y cyfarfodydd] o wneud hufen iâ i dyfu te,” meddai Aled Rees wrth golwg360.
“Ond fe ddaethom ni lan yn y diwedd gyda’r concept yma o agor bwyty yn Aberystwyth.”
Gweledigaeth y pump
Erbyn hyn mae’r syniad bellach wedi troi’n fusnes go iawn, gyda drysau’r bwyty wedi’u hagor am y tro cyntaf dros y Sul.
Mae Aled Rees yn mynnu nad darparu cynnyrch Cymreig yn unig yw nod y bwyty, ond rhoi cyfleoedd hefyd i bobol ifanc a dysgwyr sydd am weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Rydym ni wedi bod yn gweithio ar y prosiect yn agos i flwyddyn, a beth rydym ni eisie ei wneud yw cyflogi pobol ifanc, felly mae pawb sydd yn y gegin gyda ni o dan 24 oed,” meddai.
“Rydym ni hefyd wedi dod miwn â pholisi lle rydym ni’n cyflogi staff Cymreig, a hefyd rydym ni’n cyflogi dysgwyr, er mwyn eu hybu nhw i ymarfer eu hiaith ac ymarfer dysgu Cymraeg yn y gweithle…
“Gallwn ni fod wedi mynd i lawr y lein o gael y cwbwl – 100% – yn staff Cymreig, ond pa gyfle fydd hwnna’n rhoi i rywun sydd ishe dysgu?”