Y bardd ifanc o Donyrefail, Gwynfor Dafydd, oedd un o’r tri a ddaeth yn agos at gipio’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
Mae Gwynfor Dafydd wedi ennill Cadair yr Urdd ddwywaith yn y blynyddoedd diwetha’, ac eleni ef oedd ‘Mas’ yng nghystadleuaeth y Goron.
Roedd wedi canu am y profiad o ‘ddod mas’, gyda’r casgliad yn olrhain hanes persona’r bardd yn dod i delerau â’i rywioldeb.
Roedd 42 wedi ymgeisio am y Goron eleni, ac yn ôl un o’r beirniaid, Damian Walford Davies, Gwynfor Dafydd oedd “llais mwyaf egnïol y gystadleuaeth”.
Mae’r bardd ifanc wedi cadarnhau ar y wefan gymdeithasol, Facebook, mai fe oedd ‘Mas’, ac mae’n ychwanegu ei fod yn edrych ymlaen at gyhoeddi ei waith yn “fuan iawn”.
Dw i’n falch iawn o allu cyhoeddi mai fi oedd yn cuddio tu ôl i’r ffugenw ‘Mas’ yng nghystadleuaeth y Goron, un o dri…
Posted by Gwynfor Dafydd on Monday, 13 August 2018