Y bardd a’r darlithydd, Eurig Salisbury, oedd yn ail am y Gadair Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni.
Roedd yn un o’r tri oedd yn deilwng o’r wobr gan y beirniaid, Ceri Wyn Jones, Emyr Davies a Rhys Iorwerth.
Gruffudd Eifion Owen oedd y bardd buddugol, gyda’i awdl sy’n trafod sut y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rheoli ein bywydau a’r ffordd yr ydan ni’n edrych ar y byd.
Ffugenw Eurig Salisbury oedd ‘y gwr dienw’ yn y gystadleuaeth a oedd wedi denu 11 o feirdd i ysgrifennu awdlau ar y testun ‘Porth’.
Dyma’r pedwerydd gwaith i Eurig Salisbury ddod yn agos iawn at ennill y Gadair Genedlaethol.