Mae pwyllgorau codi arian Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 wedi cyrraedd dros hanner ffordd at eu targed o £300,000.

Fe ddaeth y cadarnhad gan Gadeirydd Pwyllgor Gwaith prifwyl y flwyddyn nesaf, Trystan Lewis, wrth iddo ddweud iddo ddysgu llawer gan drefnwyr eleni hefyd.

Ac yn hytrach na meddwl am “ddychwelyd at eisteddfod draddodiadol” yn Llanrwst yn 2019, mae Trystan Lewis yn dweud ei bod hi’n her i bob eisteddfod bellach i wthio ffiniau a meddwl yn wreiddiol am yr hyn y maen nhw’n ei gynnig i ymwelwyr.

“Mae pawb yn gweithio’n galed iawn ar hyn o bryd yn codi ymwybyddiaeth ac yn codi arian, ac mae angen i ni feddwl yn wreiddiol am yr hyn ydan ni’n ei gynnig yn Sir Conwy.”