Fe gafodd protestwyr Cymdeithas yr Iaith eu hatal gan swyddogion diogelwch rhag paentio sloganau tros stondin Llywodraeth Cymru yn yr Eisteddfod.
Roedd yr ymgyrchwraig Angharad Tomos yn annerch criw o gefnogwyr yng nghyntedd Canolfan y Mileniwm pan geisiodd rhai, gan gynnwys Cadeirydd y Gymdeithas, Heledd Gwyndaf, ddefnyddio chwistrellau paent i ddifrodi arddangosfa’r Llywodraeth.
Fe ddaeth yr ymgais ar ddiwedd gorymdaith trwy’r ‘maes’ yn protestio yn erbyn yr hyn y mae’r Gymdeithas yn ddweud yw bwriad y Llywodraeth i wanhau’r ddeddf iaith.
‘Dal i baentio’
Fe roddodd Angharad Tomos enghreifftiau o achosion o faes budd-daliadau i’r sector preifat lle’r oedd hi wedi methu â chael gwasanaeth Cymraeg, neu fygwth gwasanaeth salach.
Roedd hi’n rhan o brotest enwog yn Eisteddfod 1989 pan gafodd slogan yn galw am Ddeddf Iaith Newydd ei chwistrellu tros stondin y Swyddfa Gymreig.
“Rydan ni’n dal yma ac yn dal i beintio sloganau am mai dyna’r unig iaith y mae’r Llywodraeth yn ei deall.”