Mae’r ffordd y mae’r Cymry’n ffraeo cymaint â’i gilydd wedi hawlio sylw enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

Rhydian Gwyn Lewis o Gaerdydd oedd y buddugwr ym mhrif seremoni’r brifwyl ddydd Iau (Awst 9).

Mae ei ddrama Maes Gwyddno wedi’i lleoli yn y flwyddyn 2051, gyda chriw o ffrindiau yn cyfarfod yn nhafarn y Grange yn Grangetown i drefnu protest derfysgol aflwyddiannus.

“Criw o bobol ifanc ydyn nhw [y cymeriadau], a beth oeddan i’n trio dychmygu oedd sut fyddai pobol ifanc yn teimlo erbyn hynny o weld Cymru, a Chaerdydd ella erbyn hynny, yn cael eu tynnu oddi wrthyn nhw a phethau yn mynd i lawr allt…” meddai wrth golwg360.

“Felly mae’r cymeriadau wedyn yn mynd ati i greu ymosodiad terfysgol ym Mae Caerdydd, a dyw hynny ddim cweit yn mynd fel yr oeddan nhw’n gweithio, ac mae hynna oherwydd y ffaith eu bod nhw’n ffraeo cymaint â’i gilydd.

“Be oeddan i’n tri gwneud oedd dangos, ella, fod angen i ni stopio ffraeo efo’n gilydd cymaint fel Cymru a jyst trio canolbwyntio ar y bygythiadau o’n cwmpas ni.”

Technoleg

Thema arall sy’ hawlio sylw yn y ddrama, meddai’r dramodydd, yw’r modd y bydd technoleg yn “rheoli” bywydau pobol yn y dyfodol.

Mae’n dweud bod cyfresi drama fel Black Mirror wedi bod yn ddylanwad arno yn hyn o beth, yn fwy na’r nofel Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis, meddai.

“Mae yna dipyn o bwyslais ar dechnoleg hefyd yn y ddrama, ac mae hynny’n chwarae rhan bwysig yn niwedd y ddrama, a pha mor bell y mae technoleg erbyn hynny yn rheoli ein bywydau ni.

“Dw i’n meddwl roedd gwylio rhaglenni fatha Black Mirror a phethau fel’na i gyd yn gwneud i mi sylwi ella yn y dyfodol – cymharol agos, rili – pa mor bell y mae technoleg yn mynd i fynd.”