Mae mam a merch wedi penderfynu lansio cylchgrawn gan ferched i ferched er mwyn llenwi’r hyn maen nhw yn ei alw yn “fwlch yn y farchnad”.
Fe gafodd Cara ei lansio’n swyddogol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yr wythnos hon.
Efa Mared Edwards, a’i mam, Meinir Wyn Edwards, sydd tu ôl i’r cylchgrawn, a daw’r lansiad yn sgil degawd o drafod y syniad, a blwyddyn o waith trefnu.
Er bod y cylchgrawn wedi’i dargedu at ferched mae’r ddwy sydd wrth y llyw yn mynnu bod modd i bawb ei ddarllen a’i fwynhau.
“Dim dim ond i fenywod [mae’r cylchgrawn],” meddai Meinir Wyn Edwards wrth golwg360. “Mae’n gylchgrawn i bawb.
“Merched sydd wedi bod yn gweithio arno fe, merched sydd wedi bod yn cyfrannu ato fe. Merch yw’r dylunydd. Merched yw’r golygyddion. Ond [bydd yna] rhywbeth i apelio at bawb dw i’n gobeithio.”
“Hawdd i’w ddarllen”
Mae Meinir Wyn Edwards yn ategu bod y cylchgrawn yn wahanol i lawer o ddeunydd Cymraeg gan ei fod yn cyfuno erthyglau dwys ac ysgafn.
“Does dim cylchgrawn tebyg yn y Gymraeg,” meddai. “Gyda’r erthyglau high/low journalism yma. Erthyglau dwys ynghyd ag erthyglau mwy ysgafn.
“Rhywbeth hawdd i’w ddarllen. Dyw e ddim yn gyfrol lenyddol o gwbl. Gobeithio bydd pobol sydd ddim yn darllen nofelau Cymraeg yn medru darllen hwn, a datblygu wedyn i ddarllen mwy o Gymraeg.”
Y cylchgrawn
Copi ‘sampl’ o’r cylchgrawn sydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2018, medd sefydlwyr Cara.
Cafodd nifer cyfyngedig – 400 – eu printio, ac mae’r fam a’i merch wedi talu am y fenter â’u harian eu hunain – mae pob cyfrannwr wedi gweithio am ddim.
Mae’r pâr wedi ceisio am grantiau ac yn gobeithio medru cyhoeddi tri rhifyn y flwyddyn, gyda’r cyntaf ar gael yng Ngwanwyn 2019.
Maen nhw hefyd yn gobeithio cynyddu’r nifer o dudalennau o 20 i 80.