Mae disgwyl i dri dyn ymddangos gerbron y llys wedi’u cyhuddo o lofruddio dyn wnaeth ladd plentyn yn y 1980au.
Cafwyd hyd i David Gaut yn farw mewn tŷ yn Tredegar Newydd, Caerffili, brynhawn dydd Sadwrn (Awst 4).
Roedd y dyn 54 oed wedi cael ei garcharu am oes yn Llys y Goron Caerdydd am lofruddio babi 17 mis oed, Chi Ming Shek, ym mis Chwefror 1985.
Bu adroddiadau ei fod wedi cael ei ryddhau o’r carchar y llynedd ac wedi symud i Dredegar Newydd.
Mae Heddlu Gwent yn dweud bod tri dyn – 47, 23 a 51 oed – i gyd o ardal Tredegar Newydd – wedi cael eu cyhuddo gyda llofruddiaeth David Gaut.
Bydd y tri yn mynd gerbron Llys Ynadon Casnewydd heddiw [dydd Iau, Awst 9].
Wrth ddedfrydu David Gaut yn 1985, dywedodd y barnwr mai llofruddiaeth y bachgen bach oedd “y drosedd waethaf yn y wlad”.
Roedd y babi â chleisiau gwael dros ei gorff. Bu farw o sawl anaf, gan gynnwys rhai i’w fraich a’i benglog, a oedd wedi torri.