Mae galwad heddiw i’r system addysg yng Nghymru efelychu un Catalwnia a symud at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb dros gyfnod o amser.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn pwyso ar fwrdd dan arweiniad y cyn-Aelod Cynulliad, Aled Roberts, sy’n gyfrifol am ddatblygu cynlluniau addysg Gymraeg cynghorau sir ledled Cymru.
Yn ôl y mudiad, mae angen adolygu’r ddeddfwriaeth addysg Gymraeg gan nad oes nod hirdymor yn y gyfraith sy’n anelu at ysgolion Cymraeg yn unig.
Mae galw am newid y gyfraith i fod yn debyg i un Catalwnia, lle mae’n nodi bod sefydliadau addysg yn gweithredu ar y sail mai’r “Gatalaneg yw’r cyfrwng arferol i fynegi gweithgareddau addysgu a gweinyddol, yn fewnol ac yn allanol.
Mae 80% o’r boblogaeth – 7.5 miliwn – o bobol yn Catalwnia bellach yn siarad Catalaneg.
“Prif ffordd i gyrraedd y filiwn”
“Nid oes modd i Gymru symud at bolisi Catalwnia dros nos, ond mae modd i’r ddeddf sy’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd osod hynny fel nod mwy hirdymor,” meddai Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Mae gwneud y Gymraeg yn norm cyfrwng addysg ein gwlad yn bosib o fewn yr ychydig ddegawdau nesa’. Dyma’r brif ffordd rydyn ni’n mynd i gyrraedd miliwn o siaradwyr, a symud ymlaen o hynny – ac mae’r grymoedd gan ein Senedd i allu gwneud hyn.
“Dyw hyn ddim yn golygu bod yn rhaid i bob un athro neu weithiwr addysg fedru’r Gymraeg. Eisoes mae traean o’n hathrawon yn rhugl yn y Gymraeg.
“O’r gweddill, mae gan ganran sylweddol ychwanegol wybodaeth sylweddol o’r Gymraeg ac maen nhw’n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg, ac mae gan y rhan fwyaf o’r lleill rywfaint o ddealltwriaeth o’r Gymraeg.
“Rydyn ni’n dechrau o seiliau cadarn, ond, wrth gwrs, bydd angen cynyddu sgiliau’r gweithlu yn sylweddol dros amser.”