Mae seremoni i anrhydeddu Dysgwr y Flwyddyn wedi’i chynnal yng Nghaerdydd heno (nos Fercher, Awst 8), a Matt Spry wedi’i enwi’n enillydd.

Yn wreiddiol o Aberplym, mae Matt Spry yn byw yng Nghaerdydd ers pum mlynedd, ac yn dysgu Cymraeg ers 2015.

Mae’n gweithio i Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn diwtor-drefnydd, ac yn gyfrifol am drefnu cyrsiau a dysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yng Nghaerdydd.

Dywed fod dysgu Cymraeg wedi bod o gymorth mawr iddo dros y blynyddoedd diwethaf a bod yr iaith wedi newid ei fywyd yn gyfan gwbwl.

Ei uchelgais yw parhau i fod yn diwtor Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Byddai hefyd yn hoffi gweithio ar brosiectau dysgu arloesol eraill, gan gynnwys cynnig gwersi Cymraeg mewn carchardai, pobol sydd â phroblemau iechyd meddwl, a phobol â phroblemau cyffuriau ac alcohol.

Y tri arall yn y rownd derfynol oedd Steve Dimmick, Yankier Pijeira Perez a Nicky Roberts.

Y beirniaid eleni oedd Lowri Bunford Jones, Carole Bradley a Lowri Haf Cooke.