Mae tocynnau dydd i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd wedi gwerthu allan.

Mae ymwelwyr â Chanolfan y Mileniwm yn dal i giwio i gael prynu band garddwrn i ymweld â’r Pafiliwn, y Babell Lên a Theatr y Maes, ond yn cael eu troi ymaith.

Mae arwyddion hefyd yn dweud nad ydi hi’n bosib i bobol dalu £10 i gael mynediad.