Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn “arbennig a didrafferth” hyd yma, yn ôl Prif Weithredwr y brifwyl.

Ym Mae Caerdydd mae’r Eisteddfod eleni – lleoliad gwahanol iawn i’r caeau gwledig arferol – ac mae Elfed Roberts yn cydnabod bod hynny wedi peri “tipyn o heriau”.

Bu’n rhaid iddo ddelio â llawer mwy o dirfeddianwyr eleni – 26 i gyd – a bu’n rhaid iddo fynd i’r afael â heriau iechyd a diogelwch unigryw, meddai.

Ond, er bod hyn wedi golygu “lot o waith” i weithwyr yr  Eisteddfod”, mae’n dweud bod pethau wedi bod yn “dda iawn” yn gyffredinol.

“Mae staff yr Eisteddfod yn yr Wyddgrug a Chaerdydd wedi gorfod gwneud llawer iawn, iawn o waith – mwy ‘na’r arfer i fod yn onest,” meddai wrth golwg360.

“Ond, erbyn hyn, mae popeth wedi dod at ei gilydd, ac rydym wedi cael penwythnos cyntaf arbennig a didrafferth.”

Diwedd cyfnod

Hon fydd yr Eisteddfod Genedlaethol olaf gydag Elfed Roberts wrth y llyw, ac fe fydd Betsan Moses yn cymryd yr awenau oddi wrtho.

Mae’n dweud ei fod yn ffyddiog y bydd hi’n “gwneud pethau yn ei ffordd ei hun ac yn gwneud pethau er lles yr Eisteddfod.”

Ac mae Elfed Roberts yn edrych yn ôl dros ei yrfa â balchder.

“Mae’n ddiwedd cyfnod i mi yn bersonol,” meddai. “Dw i wedi bod yn gweithio â’r Eisteddfod ers i 1986 a dw i wedi bod yn berson ffodus ofnadwy.

“Dw i wedi cael bod mewn swydd unigryw, ac wedi mwynhau bob munud. Dw i wedi gwneud andros o lot o ffrindiau, a dim llawer o elynion. Mae wedi bod yn dda iawn.”