Gwefab yr apel
Mae’r apêl ar gyfer glowyr pwll Tarenni Gleision bellach wedi ei lansio gan gyn Ysgrifennydd Cymru Peter Hain.

Mae gwefan wedi ei sefydlu ar gyfer y gronfa, gyda neges un dudalen gan y gwleidydd, sydd hefyd yn Aelod Seneddol tros ardal Cwm Tawe lle’r oedd y trychineb.

Yn ôl Peter Hain, dyma’r trychineb glofaol gwaetha’ yng Nghymru ers degawdau ac fe ailadroddodd ei sylw fod y digwyddiad yn “bicell trwy galon y gymuned”.

Fe fydd y teuluoedd “angen ein help ni i oroesi a dod dros hyn yn y dyfodol”, meddai, gan ddweud y bydd enwau noddwyr eraill i’r gronfa’n cael eu cyhoeddi’n fuan.

Mae botwm ar y tudalen er mwyn gallu rhoi arian yn uniongyrchol i’r gronfa.