Silffoedd gwirodydd (Silar CCA 3.0)
Mae pobol yng Nghaerdydd yn cael eu rhybuddio i beidio ag yfed math arbennig o fodca sy’n cynnwys hylif peryglus.

Fe gyhoeddod adran Safonau Masnach Cyngor y Ddinas rybudd brys am boteli sy’n cael eu gwerthu yn yr ardal dan yr enw Drop Vodka.

Mae profion, medden nhw, yn awgrmu bod hylif glanhau yn y ddiod a bod hwnnw’n beryglus os caiff ei yfed.

Dyw’r fodca chwaith ddim yn cynnwys digon o alcohol i warantu’r enw, meddai’r adran mewn datganiad.

Bellach, maen nhw’n ceisio olrhain ffynhonnell y fodca a cheisio darganfod ai fodca anghyfreithlon yw e sy’n dynwared y cynnyrch go iawn.

“Rhaid i gwsmeriaid yng Nghaerdydd fod yn ofalus iawn gan fod posibilrwydd fod y fodca’n beryglus ac fe allai niweidio iechyd pobol,” meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor y Dddinas, Judith Woodman.

Mae modd cysylltu â’r adran ar 02920 872959.