Stadiwm Swalec - munud o dawelwch cyn gem brawf
Mae prif dimau chwaraeon Cymru wedi bod yn talu teyrngedau i’r glowyr a fu farw yn y trychineb yng Nghwm Tawe.

Mae carfan rygbi Cymru wedi anfon neges gydymdeimlad yn union cyn eu gêm dyngedfennol yn erbyn Samoa fore Sul.

Roedd y chwaraewyr wedi bod yn meddwl am y dynion a’u teuluoedd, meddai un o’r tîm hyfforddi, Rob Howley.

Neithiwr, roedd munud o dawelwch cyn y gêm y Gleision yn erbyn Ulster ac mae disgwyl teyrnged debyg heddiw cyn gêm y Gweilch, tîm rhanbarth ardal Cwm Tawe.

Roedd yna funud o dawelwch hefyd cyn y gêm brawf undydd derfynol rhwng Lloegr ac India – roedd honno’n cael ei chynnal yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd.