Xavier Rush
Ulster 20  Gleision Caerdydd 3

Roedd yna gweir i’r Gleision yn eu trydedd gêm yng nghystadleuaethy y Pro 12, a hynny ar ôl dwy fuddugoliaeth.

Roedd Ulster hefyd wedi ennill dwy wrth iddyn nhw ddechrau’r gêm gyda’r gwynt a manteisio’n llawn ar hynny.

Er mai dim ond 3-0 oedd hi am tua hanner awr, fe gafodd y blaenasgellwr Darren Cave ddau gais ym munudau ola’r hanner cynta’, gydag Ian Humphreys yn trosi un o’r rheiny.

Yn ôl y capten, Xavier Rush, camgymeriadau oedd yn gyfrifol am fethiant y Gleision i newid pethau yn yr ail hanner.

Er eu bod wedi cicio gyda’r gwynt a chael llawer o dir a meddiant, wnaethon nhw ddim manteisio ac fe gafodd Rush ei hun garden felen am dacl uchel hanner y ffordd trwy’r hanner.

Gyda chwarter awr ar ôl, fe gafodd y maswr Ceri Sweeney gic gosb ond fe gafodd honno hyd yn oed ei hateb gan Ulster.