Castell Nedd yw un o’r ffefrynnau i gipio pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru eleni, a hyd yn hyn ac maent wedi gwneud dechrau cymharol addawol i’r tymor.
Roedd yn haf arall o wario’n hael gan dîm Terry Boyle, sy’n ynghyd â’r Seintiau Newydd yn un o’r ddau dîm llawn amser yn y gynghrair.
Er hynny, a’r ffaith eu bod wedi codi i’r trydydd safle yn y gynghrair, perfformiad ddigon sigledig gafodd yr Eryrod yn erbyn Caerfyrddin dros y penwythnos.
Roedd y gêm honno’n dod wrth gefn colled siomedig yn erbyn Y Seintiau Newydd yr wythnos flaenorol, ond dyw hynny ddim yn poeni’r rheolwr yn ormodol.
‘‘Y prif ffactor o’r gêm ddiwethaf oedd ennill a pheidio ag ildio gôl” meddai Terry Boyle
“Er hynny rhaid cyfaddef ei bod yn fuddugoliaeth ddigon salw ac nad oeddem ar ein gorau o bell ffordd.’’
Dechrau cymysglyd i’r tymor
Mae Castell Nedd wedi codi i’r trydydd safle gyda 12 pwynt, a byddai buddugoliaeth ddydd Sadwrn ynghyd â buddugoliaeth annisgwyl i Lido Afan yn erbyn y Seintiau’n eu codi i’r ail safle.
Dim ond un gêm mae’r Eryrod wedi colli’r tymor hwn hyd yn hyn – honno yn erbyn y Seintiau Newydd.
Paul Fowler sydd wedi bod yn darparu’r goliau iddyn nhw gan rwydo deirgwaith ers dechrau’r tymor.
Y dyn peryglus arall yn rhengoedd Castell Nedd, ac un o sêr mwyaf y gynghrair yw Lee Trundle wrth gwrs sydd hefyd wedi creu argraff gyda’i berfformiadau yn y gemau cyntaf.
Ennill mewn steil
Er i’w gwrthwynebwyr gael cweir wrth law Llanelli wythnos diwethaf, roedd Boyle yn ymwybodol iawn fod rhaid i’w dîm fod yn wyliadwrus.
‘‘Mae wedi bod yn ddechrau anodd i’r tymor o safbwynt Y Drenewydd, roedden nhw’n anlwcus i wynebu tîm Llanelli a oedd yn rhagorol yn eu herbyn’’ meddai Boyle.
‘‘Rydym yn obeithiol y gallwn ennill mewn steil, ond mae’n dibynnu ar sut mae Drenewydd yn mynd i ymateb ar ôl ildio naw gôl yr wythnos diwethaf. Gall hyn fod o fantais ond hefyd yn anfantais i ni’’.
Uchafbwyntiau Sgorio o fuddugoliaeth Castell Nedd dros Gaerfyrddin dros y penwythnos: