Geraint Thomas
Roedd yn ddiwrnod gwael i’r beiciwr o Gymru, Geraint Thomas, yn y Tour of Britain heddiw wrth iddo golli tir sylweddol yn y ras.

Yr arweinydd cyffredinol, Lars Boom o dîm Rabobank enillodd gymal rhif chwech yn Wells heddiw – ei ail fuddugoliaeth o’r daith hyd yn hyn.

Gorffennodd y Cymro Thomas yn safle 25, mewn grŵp oedd funud a 24 eiliad y tu ôl i’r enillydd.

Llithro

Mae canlyniad heddiw yn golygu bod Thomas wedi llithro i’r deuddegfed safle yn y gystadleuaeth yn gyffredinol – mae dau o aelodau eraill tîm Sky, Stephen Cummings a Michael Rogers bellach o’i flaen yn y ras.

Roedd Thomas yn arwain cystadleuaeth y pwyntiau y bore yma wrth adael Taunton, ond mae Lars Boom wedi neidio uwch ei ben yn y gystadleuaeth honno hefyd.

Yr unig gysur i’r Cymro fydd y ffaith fod ei dîm yn dal i arwain y gystadleuaeth i dimau – mae gan Sky ProCycling faintais o ddeuddeg eiliad dros Leopard Trek yn yr ail safle.