Geraint Thomas
Mae Geraint Thomas yn parhau yn yr ail safle wrth ddechrau chweched cymal y Tour of Britain heddiw.

Y Cymro sy’n arwain tîm Sky ProCycling yn y gystadleuaeth, ac mae wedi bod yn gyson iawn dros yr holl gymalau hyd yn hyn, ond wedi methu â chipio buddugoliaeth hyd yn hyn.

Y gŵr o Awstralia, Mark Renshaw, enillodd y cymal oedd yn teithio o Exeter i Exmouth ddoe, ond roedd Thomas yn bedwerydd.

Mae Renshaw yn fwy adnabyddus fel prif gyfaill y gwibiwr o Ynys Manaw, Mark Cavendish, yn nhîm HTC Highroad.

Fel arfer, Renshaw, sy’n gyfrifol am osod Cavendish mewn safle da i gipio’r fuddugoliaeth ond fe benderfynodd y tîm i gyfnewid dyletswyddau ddoe.

Roedd y cynllun yn un cwbl fwriadol gan y tîm er mwyn profi pwynt i ddewiswyr tîm seiclo pencampwriaethau’r byd Awstralia, oedd wedi penderfynu peidio dewis Renshaw yn y garfan.

Arweinwyr y ras

Lars Boom sy’n dal i arwain y ras yn ei chyfanrwydd ar ôl curo Thomas i gipio’r trydydd cymal. Mae’r bwlch yn dal i fod yn 12 eiliad dros Thomas

Mae’r Cymro’n arwain y gystadleuaeth bwyntiau, ond dim ond un pwynt o fantais sydd ganddo dros Cavendish yn yr ail safle bellach.

Tîm Sky sy’n arwain y gystadleuaeth i’r timau.

Fe fydd cymal 6 heddiw’n teithio o Taunton i Wells a bydd y ras yn gorffen yn Llundain ddydd Sul.