Ar ôl buddugoliaeth gadarnhaol yn erbyn Treviso yr wythnos ddiwethaf, mae Gleision Caerdydd yn teithio i Ulster i herio’r Gwyddelod sy’n drydydd yn nhabl y gystadleuaeth RaboDirect Pro 12.

Wedi colli’n drwm yn erbyn y tîm o Ogledd Iwerddon ddwywaith y tymor diwethaf, mae chwaraewyr y Gleision yn cydnabod y sialens sydd o’u blaenau heno.

‘‘Rydym yn chwarae rygbi mewn steil hollol wahanol,” meddai prop y Gleision Scott Andrews.

“Rydym yn lledu’r bêl yn fwy, a’r blaenwyr yn cadw meddiant gyda’r bêl yn ei dwylo ac rwy’n gobeithio y gallwn ni barhau i wneud hynny.’

‘‘Rwy’n siŵr bod y math yma o rygbi yn apelio at y chwaraewyr, a’u bod yn ei fwynhau.  Er gymaint ag y mae’r rheng flaen a’r rheng ôl yn gwneud y  gwaith galed, maen nhw’n hoff o gael meddiant o’r bêl ac rwy’n sicr bod y garfan yn mwynhau y steil yma,’’ ychwanegodd y prop rhyngwladol.

Newidiadau

Ar y cyfan, a hwythau ar frig cynghrair RaboDirect Pro12 wedi dwy gêm, mae’r Gleision yn ffyddiog y gallan nhw faeddu eu gwrthwynebwyr heno.

Mae’r Gleision wedi cadarnhau bod pedwar newid i’r tîm a drechodd Treviso 33-18 ddydd Sul diwethaf. 

Yn yr olwyr, mae Casey Laulala yn dychwelyd i safle’r canolwr gyda Dafydd Hewitt yn symud i’r fainc. 

Mae Ceri Sweeney hefyd yn dychwelyd i’r tîm yn safle’r maswr a Rhys Patchell ar y fainc. 

Mae Gareth Davies allan o’r gêm wedi anaf i’w linyn y gâr yn y gêm ddydd Sadwrn diwethaf.

Yn y blaenwyr, mae Xavier Rush yn dychwelyd yn lle Andries Pretorius a dderbyniodd ergyd i’w ben-glin yn erbyn Treviso, ac hefyd yn dychwelyd mae Paul Titio a fydd yn arwain y tîm o’r ail reng. 

Mae prop James Monck sydd yn chwarae rygbi i glwb Caerdydd yn eistedd ar y fainc oherwydd i Ryan Harford ddioddef anaf i’w ysgwydd  ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Treviso.

Mae’r gêm yn fyw ar BBC2 heno gyda’r gic gyntaf am 7:05.