Yfory fe fydd Y Drenewydd yn gobeithio codi oddi ar waelod tabl Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth yn eu gêm gartref yn erbyn Castell Nedd.

Fe gollodd y tîm o’r Canolbarth o 9-2 yn erbyn Llanelli’r wythnos ddiwethaf, ac maen nhw’n gorwedd ar waelod y tabl ond yn gyfartal o ran pwyntiau â Chaerfyrddin.

Ar y llaw arall fe enillodd eu gwrthwynebwyr y penwythnos diwetha’ o 1-0 yn erbyn Caerfyrddin, a roddodd gêm galed i Gastell Nedd, er mai’r tîm cartref oedd yn ei rheoli.

“Disgwyl gwell perfformiad”

Nid yw’r Drenewydd wedi cael y dechrau delfrydol i’r tymor wrth gipio tri phwynt yn unig mewn chwe gêm hyd yn hyn.

Bydd yn rhaid anghofio am unrhyw ansicrwydd wrth wynebu tîm Castell Nedd sydd yn llawn hyder ac yn drydydd yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

Wedi’r gweir yn erbyn Llanelli bydd y Drenewydd eisiau osgoi canlyniad tebyg yn erbyn Castell Nedd.

‘‘Ar ôl colli yn drwm wythnos ddiwethaf, rydym yn sicr yn disgwyl gwell perfformiad ac yn disgwyl gwellhad mawr yn ein chwarae” meddai Owen Derbridge, Ysgrifennydd y Drenewydd.

“Wedi dweud hynny fe chwaraeodd Llanelli yn dda ac roedden nhw yn haeddu ennill.’’

Peidio ailadrodd gêm llynedd

Y tro diwethaf i’r ddau dîm yma gwrdd, Castell Nedd ddaeth yn ôl ar ôl ildio dwy gôl gynnar.

‘‘Pan chwaraeon ni Castell Nedd llynedd, roeddwn yn ennill 2-0 ac yn chwarae yn dda ac yn hyderus tu hwnt ond yn anffodus fe ddaeth Castell Nedd yn nôl a’n curo.,” cofia Owen Durbridge.

“Allwn ni ddim caniatáu i hyn ddigwydd y eleni.”

Anodd cystadlu yn erbyn arian

Mae Castell Nedd yn un o’r ychydig glybiau llawn amser sy’n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.

Ymysg eu carfan mae chwaraewyr sydd wedi chwarae ar lefel uchel yng Nghynghrair Lloegr, gan gynnwys Matty Collins, Kristian O’Leary ac wrth gwrs Lee Trundle.

Mae Owen Durbridge yn cyfaddef ei bod hi’n anodd cystadlu â thimau sy’n gallu talu cyflogau breision i chwaraewyr.

‘‘Mae hi’n galed cystadlu yn erbyn y clybiau mawr yma, a’r holl arian a’r incwm, ond dyna fe, mae’n rhaid ei wneud i fod yn llwyddiannus yn y gynghrair yma’’.

‘‘Rwy’n siŵr bod y clybiau eraill yn edrych arnom fel tîm sy’n brwydro yn erbyn disgyn o’r Uwch Gynghrair yn barod, ond rydym am frwydro ymlaen er gwaethaf hynny.’’

Bydd Y Drenewydd yn herio Castell Nedd bnawn fory, a’r gêm yn fyw ar Sgorio gyda’r rhaglen i ddechrau am dri, a bydd uchafbwyntiau i ddilyn ar Golwg360.

Rhys Jones

Uchafbwyntiau Sgorio o gêm Llanelli v Y Drenewydd dros y penwythnos: