Alviro Petersen
Kent 237 a 312  Morgannwg 423-9  a  129-2

Fe gafodd Morgannwg fuddugoliaeth yng ngêm ola’r tymor yn Ail Adran Pencampwriaeth LV=.

Ac fe lwyddodd y capten, Alviro Petersen, i groesi’r 1,000 o rediadau yn ei dymor cynta’ – a’r ola’ efallai – i’r sir.

Ef oedd y prif sgoriwr, gyda 70, wrth i Forgannwg gyrraedd targed yr ail fatiad yn gyfforddus ac ennill o wyth wiced.

Gyda 22 pwynt yn codi’r sir i’r chweched lle yn y tabl, mae’n ddiwedd da i dymor siomedig ac mae sôn fod siroedd eraill eisoes yn ceisio denu Petersen.

Ynghynt, roedd y troellwr Dean Cosker wedi cipio pedair wiced yn ail fatiad y tim o Gaint – y Cymro Geraitn Jones oedd eu prif sgoriwr gyda 79 ac ef oedd y wiced ola’ ii fynd ar 312.