Gethin Jenkins - ar y fainc
Mae Warren Gatland yn gobeithio am berfformiad arall fel yr un yn erbyn De Affrica wrth i Gymru wynebu Samoa yng Nghwpan y Byd.
Mae wedi enwi’r un pymtheg yn union ag a ddaeth o fewn pwynt i Dde Affrica ddydd Sul – mae’r unig newid ar y fainc, lle mae’r prop pen tynn profiadol, Gethin Jenkins, yn disodli Ryan Bevington.
Dyma’r tro cynta’ ers 2006 i Gymru allu enwi’r un tîm ac, yn ôl Gatland, mae’n arwydd o hyder ym mherfformiad y tîm ddechrau’r wythnos.
Un newid i Samoa
Dim ond un newid sydd yn nhîm Samoa hefyd ar ôl eu buddugoliaeth nhw o 49-12 yn erbyn Namibia.
Fe fydd rhaid i Gymru ennill i gael gobaith o aros yn y gystadleuaeth ac mae’r prif hyfforddwr yn dweud ei fod eisiau iddyn nhw wneud cystal ag yn erbyn y Springboks.
Fe ddywedodd hefyd ei fod yn gobeithio am rywfaint o gefnogaeth leol – mae Cymru’n chwarae yn Hamilton, yn nhalaith Waikato lle’r oedd Gatland ei hun yn chwarae.
Sylwadau Gatland
“Roedden ni’n siomedig iawn i golli i’r Springboks,” meddai Warren Gatland. “Mae yna rai pethau i’w gwella, ond r’yn ni eisiau rhagor o’r un peth gan bawb.
“Fe wnaethon ni gynnal ein momentwm, gydag agweddau o’r perfformiad yn rhoi digon o bwyntiau positif i fynd i’r gêm ddydd Sul yn erbyn Samoa.
“Doedden ni ddim yn gallu gweld bai ar ymdrech, ysbryd nac ymroddiad y chwaraewyr yr wythnos ddiwetha’ ac r’yn ni wedi dweud yn syml ein bod yn chwilio am yr un peth yn erbyn Samoa.”