Y bêl binc (O wefan y gwneuthyrwyr Tiflex)
Mae gan Forgannwg obaith o ennill gêm ola’r tymor a nhwthau ar y blaen o hyd gyda dim ond pump o wicedi Kent ar ôl yn eu hail fatiad.
Fe lwyddodd y Cymru i gyrraedd 423-9 yn eu batiad cynta’ – 186 ar y blaen – ac fe drawodd y troellwyr i roi’r tîm o Gaint mewn trwbwl ar ddiwedd trydydd diwrnod y gêm bedwar niwrnod.
Fe ddechreuodd y dydd gyda chant i Stewart Walters – y cynta’ erioed mewn gêm bencampwriaeth gyda’r bêl binc o dan lifoleuadau – ac fe orffennodd yr Awstrliad gyda 147.
Fe gafodd gefnogaeth dda gan y chwaraewr ifanc, Aneurin Norman, cyn i’r bowliwr John Glover ddilyn ei ffigurau da yn y batiad cynta’ gydag 16 heb fod allan.
Y ddau droellwr llaw chwith, Dean Cosker a Nick James, a wnaeth y difrod yn ail fatiad Caint, gyda’r ddau’n cipio dwy wiced yr un.
Fe fyddai buddugoliaeth yn codi Morgannwg uwchben Essex i’r chweched safle yn Ail Adran y Bencampwriaeth LV=.