Ryan Giggs - tair record
Fe lwyddodd y Cymro, Ryan Giggs, i dorri tair record arall wrth sgorio i ennill gêm gyfartal i Manchester United yng Nhgynghrair Pencampwyr Ewrop.

Mae hynny’n golygu ei fod wedi sgorio ar y lefel ucha’ ers 22 o dymhorau’n olynol, wedi sgorio mewn 16 ymgyrch Ewropeaidd ac ef yw’r chwaraewr hyna’ i sgorio yn y brif bencampwriaeth Ewropeaidd – fe fydd yn 38 ddiwedd mis Tachwedd.

Roedd i gôl yn golygu fod Man Utd wedi cael gêm gyfartal o 1-1 yn Lisbon yn erbyn Benfica, ar ôl i’r Portwgeaid fynd ar y blaen.

Fe ddaeth ei gôl ychydig cyn hanner amser ac, yn ôl y sylwebyddion, roedd hi werth ei gweld, ac yntau’n symud i mewn o’r dde a tharo ergyd o tuag 20 llath.

Er mai Benfica oedd wedi bod yn chwarae orau, fe ddaeth Giggs yn agos at ail gôl hefyd ond fod ei ergyd wedi taro’n erbyn coes amddiffynnwr a mynd heibio i’r postyn.