Rhaid i “wasanaethau mabwysiadu ledled Cymru” ddysgu gwersi yn sgil marwolaeth merch a gafodd ei llofruddio gan ei thad.

Daw’r sylw gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, yn dilyn cyhoeddiad adroddiad am farwolaeth Elsie Scully-Hicks.

Bu farw’r ferch fach, 18 mis oed, ar Fai 25, 2016; bythefnos yn unig ar ôl cael ei mabwysiadu’n ffurfiol gan Matthew Scully-Hicks, 32.

Roedd Matthew Scully-Hicks wedi pasio’r broses fetio yn ddidrafferth, ac er iddo anafu’r ferch sawl gwaith cyn ei marwolaeth, methodd gweithwyr proffesiynol â sylweddoli bod camdriniaeth ar waith.

Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau (Awst 2), mae un o fyrddau Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi datgan y cafodd “cyfleoedd eu colli” i ofalu am y ferch fach.

“Dysgu”

“Mae’r amgylchiadau a arweiniodd at yr adolygiad hwn yn drasig ac yn hynod o brin,” meddai Cyfarwyddwraig Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, Suzanne Griffiths.

“Mae ein meddyliau gyda phob un a gafodd eu heffeithio.

“Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi bod yn darparu cyngor i Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg yn sgil yr adolygiad annibynnol.

“Rydym am sicrhau bod gan wasanaethau mabwysiadu ledled Cymru gyfle i ddysgu o’r canfyddiadau hyn.”