“Stori cyfoeth a charpiau” yw disgrifiad y digrifwr o Abertawe, Josh Elton, o’r sioe y bydd yn ei chyd-berfformio yng ngŵyl gomedi Caeredin â Lorna Prichard o Abergele, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae yntau’n gyn-fysgiwr a ddaeth yn ddigrifwr, a hithau’n gyn-newyddiadurwraig ddarlledu sydd bellach yn gwneud comedi stand-yp yn llawn amser, a’r cefndir hwnnw sy’n sail i’w sioe Changing Horses Mid Scream.

‘Rollercoaster o flwyddyn’

Ers tair blynedd y bu Josh Elton yn ddigrifwr ac yn y cyfnod byr hwnnw, fe gafodd ei enwi’n enillydd gwobr WUSA (Welsh Unsigned Stand-up Award) yr adeg hon y llynedd.

Mae’n disgrifio’r flwyddyn ers ei fuddugoliaeth fel “rollercoaster”, ac yntau wedi’i ddisgrifio’r llynedd gan Tudur Owen fel digrifwr “gwreiddiol, gwahanol ac amrwd”.

“Mae pawb wastad yn meddwl, ‘ydy e’n grêt neu ydy e jyst yn malu cachu?’ Mae’n neis cael rhywbeth tu ôl i fi i ddweud bo fi, ar un amser, yn dda yn dweud jôcs!

“Ac mae’n rywbeth i’r teulu pan wyf fi’n dweud ‘Fi’n rybish’ iddyn nhw ddweud, “Nag o’t ti wedi ennill gwobr?!”

Profiad newydd

Er ei fod e’n enw adnabyddus yng Nghymru erbyn hyn, mae’r profiad o fynd i Gaeredin yn un newydd iddo.

“Dyma’r tro cyntaf i fi fynd i Gaeredin,” meddai wrth golwg360, “felly o’n i’n teimlo bod rhaid i fi roi rhywbeth yn y sioe yn dweud pwy ydw i, lle o’n i’n arfer bod, a beth sydd wedi dod â fi i’r byd comedi.

“Fi’n rhannu tamaid bach am fy stori i, lle fi wedi bod yn y tair blynedd diwetha’, lle wnes i ddechrau comedi, a lle fi wedi bod yn fy mywyd i.”

Yn y cyfamser, mae Lorna Prichard yn dychwelyd am yr ail flwyddyn yn olynol, ond yn perfformio sioe am y tro cyntaf – y llynedd, aeth hi yn y gobaith o gael lle ar amryw lwyfannau, a llwyddo i wneud 18 set byr dros gyfnod o wythnos.

Rhannu sioe

Yn ôl yr arfer i ddigrifwyr sy’n mentro i Gaeredin am y tro cyntaf, mae Josh Elton yn rhannu sioe gyda’i ffrind Lorna Prichard ac mae’n dweud y dylai hynny fod wedi golygu bod llai o bwysau arno fe.

“Achos bo ti’n rhannu sioe, dyw’r bobol yn y diwydiant ddim yn dod, na’r adolygwyr chwaith. Felly does dim mwy o bwysau arnot ti o flaen y gynulleidfa. Ti’n gweithio ar y sioe a’r tro nesa’, ti’n gallu gwneud sioe ar ben dy hyn, ti’n cael pobol o’r diwydiant i mewn, a bydd popeth yn grêt.”

Ond o rannu ei sioe gyda rhywun sy’n adnabyddus yn y diwydiant fel newyddiadurwraig ac actores, mae’r cyfan wedi digwydd ychydig yn gynt na’r disgwyl i Josh Elton.

Ychwanega, â’i dafod yn ei foch: “Fi wedi dechrau gwneud y sioe gyda Lorna, oedd yn arfer bod ar y teledu, felly mae’r diwydiant i gyd yn dod! A’r adolygwyr i gyd hefyd! Mae hwn yn llawer o bwysau o’n i bendant ddim wedi seinio lan iddo fe!

“Os oes rhywun sydd eisiau dod i weld y sioe, bydden i’n fwy na hapus i gael sgwrs fach yn Gymraeg ar ôl ’ny.”