Mae Cadeirydd a chyn-Brif Weithredwr S4C wedi disgrifio’r diweddar Barchedig Ddr Alwyn Roberts fel “cyfaill beirniadol”, wrth dalu teyrnged iddo heddiw (dydd Mercher, Awst 1).
Mae Huw Jones yn dweud hefyd fod Alwyn Roberts, Tregarth yn un o “gewri” sefydliadau darlledu gwledydd Prydain, yn un o aelodau cyntaf Bwrdd S4C ac yn un o fwrdd llywodraethwyr y BBC. Fe fu hefyd yn Gadeirydd y Cyngor Darlledu yng Nghymru.
“Fel cynrychiolydd y BBC ar Fwrdd cyntaf Awdurdod S4C, roedd yn allweddol wrth sicrhau cydweithio adeiladol a chyfraniad egnïol gan y Gorfforaeth i lwyddiant y sianel yn ei dyddiau cynnar allweddol,” meddai Huw Jones.
“Fel un o Lywodraethwr y BBC’n ganolog, gwnaeth safiad oedd yn cael ei barchu’n eang gan ddarlledwyr wrth iddo wrthwynebu penderfyniad y corff hwnnw i ddiswyddo Alasdair Milne, y Cyfarwyddwr Cyffredinol, o dan bwysau gwleidyddol.
“Bu’n gyfaill beirniadol i S4C ar hyd y blynyddoedd,” meddai Huw Jones wedyn, “yn arbennig felly wrth gadeirio’r Panel Cydymffurfiaeth yn y 1990au.
“Sicrhaodd drefniadau priodol a dealltwriaeth ddofn o’r pynciau dan sylw wrth alluogi’r sianel i gyfarfod â gofynion rheolaethol tra’n cadw ei hannibyniaeth a’i dewrder golygyddol.”
Erthyglau eraill y gyfres
Marw Alwyn Roberts, Tregarth, yn 84 oed