Mae’r ddigrifwraig Eleri Morgan o Aberystwyth, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn dweud wrth golwg360 mai hi fydd yr “hambôn” yng nghanol bumpkins Seisnig eleni.

A hithau’n prysur ddod yn un o wynebau cyfarwydd y sîn gomedi yng Nghymru, fe fydd hi’n rhannu’r llwyfan yng Nghaeredin eleni gyda Fiona Simpson a Ruth Wright, a’r ddwy yn dod o Loegr.

“Ni’n ffrindiau,” meddai, wrth drafod y berthynas rhwng y triawd. “Mae un yn byw yng Nghaergrawnt, un yn byw yn Llundain a fi’n byw yng Nghaerdydd.”

Bydd y sioe Bumpkins yn trafod penderfyniad y tair i symud o ardaloedd gwledig i ddinas Llundain ac felly, bydd ei magwraeth yn ferch fferm yn Aberystwyth yn rhan annatod o’r sioe, meddai.

“Syniad y sioe yw bo ni gyd yn bumpkins – fi’n hambôn. Fi yw’r un Gymreig, felly fi’n sôn am ddod o ardal amaethyddol a sut beth oedd bod yn ferch ffarmwr, a symud i ysgol ddrama yn Llundain a ffitio i mewn gyda’r ‘milennials chic’, y bobol yma sy’n byw mewn dinasoedd – fel pysgodyn allan o’r dŵr!”

Rhannu sioe

O ystyried y ddaearyddiaeth, mae hi’n dweud bod paratoi ar gyfer y sioe wedi bod yn “anodd”, ond fod rhannu’r llwyth gwaith ar ffurf yr hyn sy’n cael ei alw’n split show wedi hwyluso’r broses, wrth iddyn nhw gyfarfod yn rheolaidd dros Skype.

“Achos bo fi’n gwneud split show, mae’n golygu bach llai o waith. Fi angen cael ugain munud o gomedi. Fi wedi bod yn gweithio ers Rhagfyr yn ffitio bits efo’i gilydd, a gweld shwd mae’n gweithio.

“Pan wyt ti’n gweithio ar dy ben dy hun, ti sy’n gwneud yr holl benderfyniadau a ti sy’n gyfrifol. Mae lot o bobol yn dweud fod e’n mynd i fod yn anodd, felly mae’n neis cael cymuned yna.

“Weithiau fi ddim eisie gwneud sioe oherwydd falle bo fi wedi bomio’r noson gynt. Ond bydd rhaid i fi wneud e. Bydd rhaid i fi ffeindio’r egni ac optimistiaeth jyst i helpu’r ddwy arall.”

Sgiliau actio’n gymorth

Yn ôl Eleri Morgan, sy’n actores ac yn athrawes ioga, bydd hi’n dibynnu ar goffi, fitamin C a “digon o power naps” er mwyn goroesi mis cyfan yng Nghaeredin.

Er bod meddwl am dreulio mis cyfan yn perfformio yn yr ŵyl yn “hunlle” ac yn “codi ofn parhaus” arni, mae’n siŵr y bydd ei chefndir yn y byd actio’n gymorth iddi.

“Pan mae pobol yn dechrau gwneud comedi, ’dyn nhw byth fel arfer wedi bod ar y llwyfan o’r blaen. Fi wedi gweld pobol sy’ heb syniad o sut i ddal meicroffôn, ac maen nhw’n sefyll yn y tywyllwch!

“Fi’n gwybod lle i sefyll fel bod pobol yn gweld fi, ond sai’n gwybod fel i fod yn ddoniol eto! Ond o leia’ fydd pobol yn gweld fi!”

Yn wahanol i berfformio mewn sioe theatr, bydd perfformio sioe all amrywio ychydig o un noson i’r llall yn rhoi rhywfaint o ryddid i’r triawd bob nos.

“Dyw e ddim yn strict fel sioe theatr, lle ti’n sefyll yn yr unfan a gwneud yr un pethau bob nos. Fi byth yn sgwennu pethau lawr, a fi’n siŵr wnawn ni dorri pethau lan.

“Mae’r gynulleidfa’n wahanol bob nos ac mae hwnna’n newid pethau. Maen nhw’n mynd i fod yn ffres bob nos, felly gobeithio fyddwn ni’n ffres bob nos hefyd.”