Mae cyfeillion a theulu y dyn ifanc a gafodd ei ladd yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, wedi bod yn gosod blodau i nodi y diwrnod a fyddai wedi bod ei ben-blwydd yn 21 oed.

Fe gafodd Malaciah Joseph Thomas, 20, ei ladd yn ardal Grangetown y brifddinas yn ystod oriau mân bore Llun, Gorffennaf 23.

Cafodd heddlu eu galw i Heol Corporation, am 2yb yn dilyn adroddiadau am “ymosodiad difrifol” yng ngardd flaen un o’r tai yno.

Roedd Malaciah Thomas – o Dre-biwt – wedi’u drywanu sawl gwaith.