Mae’r Aelod Cynulliad, David Melding, wedi datgan ei fod am weld Paul Davies yn dod yn arweinydd newydd ar y Ceidwadwyr Cymreig i olynu Andrew RT Davies.
“Yn amlwg, Paul Davies, yw’r ymgeisydd gorau,” meddai David Melding. “Ef fydd yn medru uno’r blaid a sicrhau bod ein ffigyrau etholedig a’n hymgyrchwyr yn disodli Llafur.”
Daw hyn er iddo enwebu Suzy Davies – yr AC arall sy’n sefyll i fod yn arweinydd y blaid – ar ddechrau’r mis.
Fe dderbyniodd hi enwebiadau gan dri Aelod Cynulliad: Janet-Finch Saunders, Mark Isherwood a David Melding.
Ac mi dderbyniodd Paul Davies enwebiadau gan bum Aelod Cynulliad: Angela Burns, Russell George, Nick Ramsay, Mohammad Asghar and Darren Millar.
Canmoliaeth
“Dw i’n gweld Paul Davies yn Brif Weinidog o’r Ceidwadwyr Cymreig, gyda’r angerdd a’r profiad i arwain ein gwlad,” meddai David Melding.
“Mae gan dîm y Ceidwadwyr Cymreig ambell i syniad grêt er mwyn newid Cymru. Ond dim ond trwy gael Llywodraeth Geidwadol y gallwn drawsnewid ein gwlad go iawn.
“Dyna pam bod angen arweinydd profiadol arnom, sydd â hanes o ennill etholiadau.”