Mae Urdd Gobaith Cymru wedi sefydlu cronfa newydd a fydd yn sicrhau bod rhai o blant a phobol ifanc fwya’ difreintiedig Cymru yn cael y cyfle i ymweld â gwersylloedd y mudiad yn ystod gwyliau’r haf.
Enw’r cynllun yw ‘Cyfle i bawb – Cronfa Gwersyll Haf yr Urdd’, ac mae’r mudiad ar hyn o bryd yn chwilio am unigolion i noddi gwyliau i blant yn ystod gwyliau haf y flwyddyn nesa’.
Yn ôl yr Urdd, fe fydd nawdd o £160 yr un yn ariannu lle i blentyn ar gwrs 5 diwrnod yn naill ai Llangrannog, Glan-llyn neu Gaerdydd.
Mae’r gronfa eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a’r cwmni teledu, Tinopolis.
Fe fydd yn cael ei lansio yn swyddogol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, cyn y bydd ar gael i ysgolion a rhieni gyflwyno ceisiadau yn 2019.
Cymorth i’r difreintiedig
“Mae’r Urdd yn cynnig ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau gwych ar gyfer plant a phobl ifanc drwy gydol y flwyddyn ac mae mynychu Gwersyll Haf yn un o’r profiadau mwyaf unigryw i’r Urdd,” meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
“Dyma pam rydym ni wedi bod yn chwilio am ddulliau arloesol i sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli cyfle.”