Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi gwadu bod yna gynllwyn yn San Steffan i symud cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies o’i swydd.
Ymddiswyddodd Andrew RT Davies ym mis Mehefin ac mae’n honni iddo dderbyn neges destun yn cyfeirio at gynllwyn yn ei erbyn o du Llundain.
Roedd awgrym mai Alun Cairns oedd wedi anfon y neges ond mewn cyfweliad ar raglen Sunday Politics Wales y BBC, dywedodd Ysgrifennydd Cymru fod y neges yn cyfeirio at rywbeth arall. Ychwanegodd ei fod e “wedi mwynhau” cydweithio â’r cyn-arweinydd “hyd y diwedd”.
Y neges destun
Dywedodd Andrew RT Davies iddo dderbyn neges destun dros flwyddyn yn ôl yn cyfeirio at gynlluniau “i fy symud i o fod yn arweinydd”.
Dywedodd fod y neges yn cyfeirio at “gadw’n dawel” a “symud ar unwaith”, a bod y neges wedi dod “o ben draw’r M4”.
Ond yn ôl Alun Cairns, roedd y neges yn cyfeirio at symud Mark Reckless, yr Aelod Cynulliad, o’r Blaid Geidwadol.
Dywedodd nad oedd y teimladau am Mark Reckless, oedd wedi gadael UKIP am y Ceidwadwyr ac yna wedi mynd yn annibynnol, yn gyfrinach o fewn y blaid.
Pont Tywysog Cymru – “anhawster i’w Uchelder Brenhinol”
Yn ystod y cyfweliad, dywedodd Alun Cairns fod y rhan fwyaf o bobol yng Nghymru o blaid ailenwi Pont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.
Daw ei sylwadau er i nifer o arolygon awgrymu i’r gwrthwyneb, a sawl protest ledled Cymru.
Ond yn ôl Alun Cairns, ceisio safbwynt y Cymry’n unig yr oedd yr arolygon.
Ychwanegodd mai’r “peth diwethaf” yr oedd e am ei wneud oedd “achosi anhawster i’w Uchelder Brenhinol”.